Message from the NPT Local Authority

Message from NPT Local Authority

Dear Parent / Carer

In response to the early lockdown period, Neath Port Talbot local authority provided hub childcare facilities for critical workers. This was an immediate response to the emergency childcare needs for those on the frontline of the national cause to minimise the impact of the coronavirus pandemic. Schools were repurposed in line with Welsh Government’s guidance to provide these facilities.

Following consultation with other agencies including the NHS and as we progress our national recovery programme, the same level of need no longer exists and the lifting of restrictions allows for childcare to be delivered by more normal means. The repurposing of schools has been reversed and as a result, the local authority will not be providing summer childcare for critical workers. This decision is in accordance with other neighbouring local authorities, Welsh Government decisions and paves an opportunity for childcare providers in Neath Port Talbot to re-establish their businesses and ensure that childcare needs are met accordingly.

Families wishing to access childcare are welcome to contact the local authority’s Family Information Service (fis@npt.gov.uk ) who will provide a list of registered providers who would be able to meet their needs.

The local authority’s Children Services and Education Directorate are currently constructing a summer support programme for our most vulnerable learners, many of whom have found lockdown conditions particularly challenging and detrimental. This programme will seek to deliver bespoke support for those assessed to be our most isolated children and young people suffering from increased stresses and substantial psychological inequality. The programme will be configured around current resource, allowing services to deliver increased opportunities for safe social interaction and enhanced wellbeing and mental health interventions.

Again, we would like to take this opportunity to express our gratitude to parents and carers for their understanding and cooperation during these challenging times.

Yours sincerely,

Aled Evans

Director of Education, Leisure and Lifelong Learning

Neges gan Awdurdod Lleol CNPT

Annwyl Riant / Gofalwr

Mewn ymateb i’r cyfnod cynnar o gloi, darparodd awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot gyfleusterau gofal plant mewn hybiau ar gyfer gweithwyr critigol. Roedd hwn yn ymateb uniongyrchol i anghenion gofal plant brys y rheini sydd ar reng flaen yr achos cenedlaethol i leihau effaith y pandemig coronafirws. Cafodd ysgolion eu hailbwrpasu yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru i ddarparu’r cyfleusterau hyn.

Yn dilyn ymgynghori ag asiantaethau eraill gan gynnwys y GIG ac wrth inni symud ymlaen â’n rhaglen adferiad cenedlaethol, nid yw’r un lefel o angen yn bodoli mwyach ac mae codi’r cyfyngiadau yn caniatáu i ofal plant gael ei ddarparu trwy ddulliau mwy arferol. Mae ysgolion bellach wedi dychwelyd i’w pwrpas creiddiol ac o ganlyniad, ni fydd yr awdurdod lleol yn darparu gofal plant haf i weithwyr critigol. Mae’r penderfyniad hwn yn unol a’r hyn sy’n digwydd mewn awdurdodau lleol eraill cyfagos, penderfyniadau Llywodraeth Cymru ac yn rhoi cyfle i ddarparwyr gofal plant yng Nghastell-nedd Port Talbot ailsefydlu eu busnesau a sicrhau bod anghenion gofal plant yn cael eu diwallu yn unol â hynny.

Mae croeso i deuluoedd sydd am gael mynediad at ofal plant gysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yr awdurdod lleol (fis@npt.gov.uk ) a fydd yn darparu rhestr o ddarparwyr cofrestredig a fyddai’n gallu diwallu eu hanghenion.

Ar hyn o bryd mae Gwasanaethau Plant a Chyfarwydiaeth Addysg yr awdurdod lleol yn llunio rhaglen gymorth haf ar gyfer ein dysgwyr mwyaf bregus, y mae llawer ohonynt wedi canfod amodau cloi yn arbennig o heriol ac niweidiol. Bydd y rhaglen hon yn ceisio darparu cefnogaeth bwrpasol i’r rhai yr aseswyd eu bod yn blant a phobl ifanc mwyaf ynysig sy’n dioddef o bwysau cynyddol ac anghydraddoldeb seicolegol sylweddol. Bydd y rhaglen wedi’i seilio o amgylch adnoddau cyfredol, gan ganiatáu i wasanaethau ddarparu mwy o gyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol diogel a gwell ymyriadau lles ac iechyd meddwl.

Unwaith eto, hoffem achub ar y cyfle hwn i fynegi ein diolch i rieni a gofalwyr am eu dealltwriaeth a’u cydweithrediad yn ystod yr amseroedd heriol hyn.

Yr eiddoch yn gywir,

Aled Evans

Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes

A close up of a logo

Description automatically generated

Aled Evans
Director of Education, Leisure and Lifelong Learning,

Neath Port Talbot County Borough Council

Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes,

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

01639 763298